Bydd yr Ymchwilydd, Dr Alistair Hooper, yn gweithio ar weithgareddau’n ymwneud â recriwtio mewn ysgolion ac ymdrin â data, gan gynorthwyo’r rheolwr data trwy gydol yr astudiaeth. Yn ei rôl bresennol yn Pearson, mae Alistair wedi cynorthwyo gyda chyflenwi a chodio yn ystod TIMSS19 ac mae wedi arwain ar astudiaethau effeithlonrwydd eraill yn y DU. Mae ganddo dros 5 mlynedd o brofiad gyda Pearson yn gweithio fel Uwch Reolwr Safonau yn y tîm Cymwysterau Cyffredinol, ac yn fwy diweddar, fel Uwch Ymchwilydd yn yr is-adran Ansawdd, Gwasanaethau a Llywodraethu. Cyn symud i Pearson, roedd Alistair yn Bennaeth Adran mewn Coleg Chweched Dosbarth yn Hampshire.