Grace Grima

Bydd Grace Grima, yn arwain y tîm craidd yn y Ganolfan Genedlaethol, gan gyflawni’r gwaith, monitro cynnydd a chyfathrebu gyda’r Bwrdd gweithredol. Gan Grace fydd y cyfrifoldeb cyffredinol am weithredu PISA yn fewnol yn y gwledydd, yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru, gan ddilyn safonau a gweithdrefnau rhyngwladol. Bydd Grace yn aelod o’r Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd Cynghori Ymchwil.

Grace yw’r Cyfarwyddwr Ymchwil yn Pearson UK. Yn ei rôl yn Pearson, mae’n gyfrifol am ymchwil ar gymwysterau academaidd a galwedigaethol a gwasanaethau dysgu ar gyfer ysgolion, ac asesiadau rhyngwladol hefyd. Grace oedd y Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol dros Loegr ar gyfer PIRLS 2016 a TIMSS 2019. Yn flaenorol, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yn y Weinyddiaeth Addysg a Chyflogaeth ym Malta, roedd yn gyfrifol am yr holl asesiadau rhyngwladol ym Malta, yn cynnwys PISA. Cyn hynny, yn Seland Newydd, cafodd y cyfle i weithio ar y Prosiect Monitro Addysgol Cenedlaethol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr Uned Ymchwil Asesu Addysgol ym Mhrifysgol Otago.