Rôl: Jo-Anne fydd aelod y Grŵp Ymgynghorol PISA21 ar gyfer y DU, yn gyfrifol am sicrhau ansawdd y prosiect a sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal yn unol â’r safonau disgwyliedig ac yn rhoi cyngor ar weithdrefnau a blaenoriaethau, yn ôl yr angen.
Cefndir: Jo-Anne yw Cyfarwyddwr yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ar hyn o bryd, ac roedd yn Gyfarwyddwr OUCEA ym Mhrifysgol Rhydychen gynt. Mae’n un o’r arbenigwyr asesu addysg mwyaf blaenllaw yn y DU a ledled y byd. Yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae wedi rheoli’r gwaith o lunio adroddiadau cenedlaethol drwy gytunteb ag asianaethau’r llywodraeth (QCA, Ofqual) a rheoli’r gwaith o lunio ystadegau ar ganlyniadau arholiadau cenedlaethol ar gyfer cymwysterau cyffredinol (e.e. TGAU a Safon Uwch) tra’r oedd yn Bennaeth Ymchwil yn y Gynghrair Asesu a Chymwysterau.