Rôl: Jonas fydd aelod rhyngwladol y Grŵp Ymgynghorol ar gyfer PISA21, yn gyfrifol am sicrhau ansawdd y prosiect a sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal yn unol â’r safonau disgwyliedig ac yn rhoi cyngor ar weithdrefnau a blaenoriaethau, yn ôl yr angen.
Cefndir: Yn ei rôl fel Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu Eitemau NAEP a Chyfarwyddwr Prosiect B2 Craidd PISA 2021, mae Jonas yn arwain datblygiad sgiliau emosiynol-gymdeithasol a mesurau cyfle-i-ddysgu ar sail ymchwil ar gyfer yr Asesiad Cenedlaethol o Gynnydd Addysgol (NAEP) a’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn y Gwasanaeth Profion Addysgol (ETS). Ers iddo gychwyn yn ETS yn 2011, mae Jonas wedi llunio’r agenda arloesi ar gyfer yr holiaduron cyd-destunol yn NAEP a PISA. Yn ogystal, mae Jonas wedi gwasanaethu’n ymgynghorydd i OECD ar gyfer PISA 2012, 2015 a 2018, pan gyfrannodd at adroddiadau rhyngwladol ac ysgrifennu Fframwaith Asesu Lles PISA 2018. Mae Jonas hefyd yn arwain Grŵp Arbenigwyr Holiadur PISA21 a bydd yn gynghorydd OUCEA ar gyfer PISA21.