Kit Double

Prif gyfrifoldeb Kit fydd cynnal y dadansoddiad sydd ei angen ar gyfer adroddiadau’r tair gwlad.

Ar ôl cwblhau ei Ph.D mewn Seicoleg Wybyddol ym Mhrifysgol Sydney, aeth ymlaen i weithio ar ddatblygu profion deallusrwydd ar gyfer Psychology Assessments Australia. Mae wedi cydweithio gyda phartneriaid diwydiant mawr hefyd ar asesu rhaglenni seicoleg sefydliadol.

Mae Kit wedi cynnal a chyhoeddi nifer o fetaddadansoddiadau wrth iddo ddatblygu ei arbenigedd mewn synthesis ymchwil feintiol. Yn ei rôl bresennol yn OUCEA, mae wedi cyhoeddi’n eang ar seicoleg addysgol.