Yr Athro Therese N. Hopfenbeck yw’r Prif Ymchwilydd ar gyfer y tri adroddiad ymchwil o Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru ac mae’n gyfrifol am gynllun lledaenu canlyniadau PISA 21. Yn ogystal, bydd yn aelod o’r Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd Cynghori Ymchwil.
Mae Therese wedi bod yn gweithio ar PISA ar sail ddamcaniaethol ac empirig, gan ddefnyddio data o’r holl gylchoedd er 2006. Cyhoeddodd ei Ph.D gan ddefnyddio data o astudiaeth PISA06, gyda dadansoddiad o’r Holiadur Cymwyseddau Trawsgwricwlaidd, gyda ffocws ar ymagweddau myfyrwyr at ddysgu, eu hunanreolaeth, eu gwydnwch a’u cymhelliant. Gweithiodd fel datblygwr profion ar gyfer Tîm Datrys Problemau PISA12, bu’n aelod o’r Grŵp Arbenigol Holiadur ar gyfer PISA18, ac ar hyn o bryd mae’n aelod gweithgar o Grŵp Arbenigol Holiadur PISA21.