Cwestiynau Cyffredin

Lluniwyd y Cwestiynau Cyffredin hyn o’r rhai a ofynnir amlaf gan ysgolion. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Rhif ffôn: 020 7010 2010

E-bost: pisa2022@pearson.com

1) Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw’r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg, a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed ledled y byd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth (gohiriwyd PISA am flwyddyn ar gyfer y cylch hwn tan 2022 o ganlyniad i’r pandemig Covid). Mae’r profion wedi’u llunio i fesur pa mor dda mae’r disgyblion yn meistroli gwybodaeth a sgiliau allweddol er mwyn bod yn barod am sefyllfaoedd go iawn ym myd oedolion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.pisa2022.uk ac yn yr adran PISA ar wefan yr OECD yn www.oecd.org/ pisa/

2) Pryd mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal?

Bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal rhwng dydd Mawrth 1 Tachwedd a dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.

Mae dyddiad wedi cael ei gynnig ar gyfer cynnal yr astudiaeth yn eich ysgol. Gobeithiwn fod y dyddiad hwn yn gyfleus i’ch staff a’ch disgyblion, ac y gellir sicrhau bod ystafell(oedd) addas ar gael. Os nad yw’r dyddiad hwn yn addas am unrhyw reswm, gall Cydlynydd PISA eich ysgol gysylltu â’n Tîm Cymorth PISA i awgrymu dau ddyddiad gwahanol rhwng dydd Iau 3 Tachwedd a dydd Gwener 9 Rhagfyr 2022 ar gyfer cynnal yr astudiaeth. Bydd ein Tîm Cymorth PISA yn ymateb i gadarnhau dyddiad newydd eich prawf.

3) Pam mae fy ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn PISA?

Mae eich ysgol wedi cael ei dewis ar hap i gymryd rhan yn PISA gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Un o ofynion yr astudiaeth yw sicrhau bod y sampl o ysgolion sy’n cymryd rhan yn gynrychioliadol o ysgolion uwchradd/cynradd yng Nghymru/yn Lloegr/yng Ngogledd IwerddonGallwn gysylltu ag ysgolion a ddewisir trwy’r dull samplu ar hap yn unig, i sicrhau bod y canlyniadau’n dangos gwir ddarlun o’r ystod lawn o ysgolion o ran maint, lleoliad a math o ysgol.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am fethodoleg yr astudiaeth, gweler www.pisa2022.uk.

Os na fydd digon o ysgolion yn cymryd rhan yn yr astudiaeth, ni fydd ein canlyniadau cenedlaethol yn gynrychioliadol ac ni fydd ein data’n cael eu cynnwys yn y gymhariaeth ryngwladol. Felly, mae eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant astudiaeth PISA 2022.

4) Pam mae Cymru yn cymryd rhan yn PISA?

PISA yw’r arolwg addysg rhyngwladol mwyaf yn y byd sy’n mesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion 15 oed. Mae’n creu darlun cenedlaethol o gyflawniad disgyblion yn y grŵp oedran hwn, gan arwain at oblygiadau i bolisi a datblygiadau lleol a chenedlaethol, a helpu i ffurfio addysg yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.

Mae PISA yn ein helpu i ddeall pa mor dda y gall disgyblion gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen i ddadansoddi, rhesymu a chyfathrebu’n effeithiol wrth iddynt archwilio, dehongli a datrys problemau. Mae’r astudiaeth hefyd yn casglu gwybodaeth werthfawr am agweddau a chymhellion disgyblion i helpu i ddeall sut maen nhw’n cyfrannu at berfformiad disgyblion.

Mae PISA yn rhoi cyfle i gymharu cyflawniad yn rhyngwladol ac yn annog gwledydd i ddysgu gan ei gilydd, gan greu systemau ysgol tecach a mwy cynhwysol. Hyd yma, mae mwy nag 80 o wledydd ac economïau wedi cymryd rhan, gan ddarparu set gyfoethog o ddata i’w chymharu.

5) Beth ydym wedi’i ddysgu o PISA?

Rhyddhawyd canlyniadau’r cylch PISA blaenorol, a gynhaliwyd yn 2018, ym mis Rhagfyr 2019. Mae blog Canolfan Asesu Addysg Prifysgol Rhydychen yn ymdrin ag amryw ganfyddiadau o’r astudiaeth a gellir ei ddarllen ar wefan PISA 2022 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ynghyd â’r Adroddiadau Cenedlaethol: www.pisa2022.uk. Yn ogystal â chanlyniadau ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth (a ddangosir ar gyfer pob gwlad isod), adroddodd astudiaeth PISA 2018 ar arferion darllen disgyblion, eu hymgysylltiad â darllen a’u lles.

Gogledd Iwerddon

Yn 2018, adroddwyd bod disgyblion yng Ngogledd Iwerddon wedi sgorio’n sylweddol uwch na chyfartaledd yr OECD mewn darllen. Adroddodd PISA hefyd fod merched yn gwneud yn well na bechgyn mewn darllen, sef patrwm sy’n gyffredin â’r rhan fwyaf o wledydd eraill yr OECD. Dangosodd disgyblion yng Ngogledd Iwerddon gryfderau cymharol o ran sgiliau darllen ‘dod o hyd i wybodaeth’ a ‘gwerthuso a myfyrio’, ond nid oeddent mor gryf o ran ‘dealltwriaeth’.

Lloegr

Yn 2018, sgoriodd disgyblion yn Lloegr yn sylweddol uwch na chyfartaleddau’r OECD mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, ac yn yr un modd â’r holl wledydd eraill a gymerodd ran, roedd merched yn Lloegr yn well na bechgyn mewn darllen. O ran sgiliau darllen, adroddodd PISA hefyd fod disgyblion yn Lloegr yn gymharol gryf o ran ‘gwerthuso a myfyrio’ a ‘dod o hyd i wybodaeth’, ond wedi dangos llai o gryfder o ran ‘dealltwriaeth’.

Cymru

Dangosodd PISA 2018 fod disgyblion yng Nghymru yn fwy hyderus o ran eu gallu i ddarllen na chyfartaledd yr OECD. Adroddodd adroddiad PISA hefyd fod disgyblion yng Nghymru yn fwy tebygol o ddarllen deunydd ar-lein na phrintiedig.

Mae dadansoddi canlyniadau PISA 2018 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ymhellach wedi dangos:

  • Bod cysylltiad cryf rhwng ymgysylltu â darllen a pherfformiad wrth ddarllen, a’i fod yn gyfryngwr rhywedd a statws economaidd-gymdeithasol;
  • Cryfder perthnasoedd personol oedd y ffactor pwysicaf a oedd yn gysylltiedig â bodlonrwydd disgyblion â’u bywyd a lles. Roedd bodlonrwydd disgyblion â’u bywyd yn fwyaf cysylltiedig â’u hymdeimlad o berthyn yn yr ysgol, a dilynwyd hynny gan eu perthynas â’u rhieni ac yna eu perthynas ag athrawon; a
  • Bod disgyblion dan anfantais sy’n perfformio’n uwch yn tueddu i ddefnyddio strategaethau metawybyddol, eu bod â’u bryd ar dyfu a bod ganddynt ddyheadau uwch ar gyfer eu haddysg neu eu gyrfaoedd yn y dyfodol na’u cyfoedion dan anfantais debyg a oedd yn perfformio’n is.

6) Sut bydd fy ysgol yn elwa o gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Mae’r ysgolion a’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn PISA yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddeall ein system addysg, a dim ond gyda’r cyfranogiad hwn y gallwn wireddu’r cyfleoedd a geir yn sgil PISA i wella ein polisïau a’n harferion addysgol.

Trwy gymryd rhan yn PISA, byddwch yn:

  • Cefnogi astudiaeth sy’n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well, gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi a datblygiadau cenedlaethol.
  • Cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy’n ffurfio diwygiadau addysgol yn fyd-eang, gan helpu i godi safonau a lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad. Gallwch weld sut mae PISA yn ffurfio diwygiadau addysg trwy fynd i www.oecd. org/pisa/aboutpisa/
  • Taflu goleuni ar feysydd fel cydraddoldeb cymdeithasol a rhywiol, ac agweddau at ddysgu, gan ganiatáu i lunwyr polisïau ddysgu o arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwlado.

Byddwch yn rhoi cyfle i’ch disgyblion:

  • Fynd i’r afael â chwestiynau sy’n herio eu gallu i adalw gwybodaeth a’i chymhwyso’n greadigol, trwy gwestiynau wedi’u seilio ar senario.
  • Ymarfer eu sgiliau asesu allanol trwy asesiad ar-lein arloesol lle nad oes llawer yn y fantol ac nid oes angen paratoi ar ei gyfer o flaen llaw. Fe allai hyn fod yn brofiad gwerthfawr iawn i ddisgyblion, ar ôl i arholiadau allanol gael eu canslo yn 2020 a 2021 ac effeithiau eraill pandemig y coronafeirws.
  • Cael profiad o gynrychioli Cymru/Lloegr/Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth fyd-eang bwysig.

Bydd eich ysgol yn cael adroddiad adborth personol sy’n cynnwys gwybodaeth am safbwyntiau eich disgyblion mewn amrywiaeth o feysydd, e.e. agweddau at fathemateg, ymdeimlad o berthyn a lles (ar yr amod bod nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan yn eich ysgol yn ddigon uchel i ddiogelu cyfrinachedd disgyblion). Mae’r adroddiad personol hwn yn gyfle i fesur a deall lles eich disgyblion yn well a dysgu o’u profiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Mae enghraifft o’r adroddiad hwn wedi’i chynnwys yn y pecyn croeso a gellir ei gweld ar wefan PISA www.pisa2022.uk/for-schools.

7) Sut mae ein cyfraniad yn cael ei gydnabod?

I ddiolch am eich cefnogaeth, bydd ysgolion a disgyblion yn cael tystysgrif cyfranogiad. Bydd eich ysgol yn cael adroddiad adborth personol (gweler y cwestiwn cyffredin uchod).

I gydnabod eich cyfraniad gwerthfawr, bydd eich ysgol yn cael taliad gweinyddol o £200 hefyd. Anfonir ffurflen dalu atoch ar ôl eich galwad gychwynnol gan Dîm Cymorth PISA.

8) A fydd angen i staff yr ysgol oruchwylio’r astudiaeth?

Na, bydd y Ganolfan Genedlaethol (Pearson) yn darparu Gweinyddwr y Prawf a fydd yn ymweld â’r ysgol ar y diwrnod asesu ac yn gyfrifol am gynnal yr astudiaeth. Mae Gweinyddwyr Prawf yn weithwyr addysg proffesiynol profiadol, sy’n aml yn gynathrawon, a byddant i gyd wedi cael cliriad DBS/Access NI. Bydd protocolau COVIDddiogel ar waith hefyd, a fydd yn sicrhau bod ein staff yn dilyn y canllawiau mwyaf cyfredol. Fodd bynnag, gofynnwn i aelod o staff yr ysgol aros yn yr ystafell yn ystod yr asesiad. Darperir Gweinyddwyr Prawf sy’n siarad Cymraeg, pan fydd angen.

9) Beth fydd yn rhan o’r asesiad?

Bydd y disgyblion yn cwblhau asesiad cyfrifiadurol rhyngweithiol dwy awr o hyd, gan ateb cwestiynau amlddewis a phenagored am fathemateg, gwyddoniaeth a darllen. Yn PISA 2022, bydd pwyslais ar faes mathemateg. Bydd pob disgybl yn gwneud cyfuniadau gwahanol o eitemau’r prawf o gronfa gwestiynau fwy o faint. Lluniwyd yr asesiad i weld sut mae disgyblion yn meistroli sgiliau penodol fel datrys problemau mewn mathemateg, strategaethau darllen a meddwl yn feirniadol mewn gwyddoniaeth; sgiliau sy’n bwysig y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Gofynnir i ddisgyblion a staff lenwi holiadur ar-lein hefyd er mwyn darparu gwybodaeth gyd-destunol bwysig i ategu’r data asesu:

  • Mae’r holiadur disgyblion yn holi’r disgyblion sy’n cymryd rhan am agweddau ar eu bywydau gartref ac yn yr ysgol, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, amgylchedd eu cartref, hinsawdd yr ysgol ar gyfer dysgu, eu hagweddau tuag at ddysgu mathemateg, gwyddoniaeth a darllen, a’u defnydd o adnoddau digidol.
  • Mae’r holiadur ysgol yn gofyn cyfres o gwestiynau cyd-destunol i’r Pennaeth/ Prifathro (neu aelod o’r Uwch Dîm Arwain) am yr ysgol sy’n cymryd rhan, gan gynnwys nodweddion demograffig disgyblion yr ysgol, yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer addysgu, ac amgylchedd dysgu’r ysgol. Dylai’r holiadur ysgol gael ei lenwi cyn y dyddiad asesu.

Gellir gweld enghreifftiau o’r asesiadau a’r holiaduron yn www.pisa2022.uk.

10) A allaf ddewis disgyblion i gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Na allwch – bydd proses samplu ar hap yn cael ei defnyddio i ddewis hyd at 40 o’ch disgyblion 15 oed, sydd â dyddiad geni rhwng 01/09/06 a 31/08/07. Bydd hyn yn berthnasol i ddisgyblion ym mlwyddyn 12 yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddir gwybod i chi ba ddisgyblion a ddewiswyd cyn gynted ag y bydd y broses samplu wedi’i chwblhau: disgwyliwn i hyn ddigwydd rhwng 15/09/22 a 30/09/22. Mae’n bwysig bod yr holl ddisgyblion yn y sampl yn gwneud yr asesiad. Fodd bynnag, gellir defnyddio meini prawf eithrio ar gyfer disgyblion a allai gael trafferth ymdopi â’r asesiadau. Anfonir mwy o fanylion atoch am eithriadau yn ddiweddarach.

11) Pa mor hir bydd yr astudiaeth yn ei gymryd?

Ar y diwrnod asesu, bydd arnom angen y disgyblion am oddeutu 3 awr. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn ceisio cwblhau’r astudiaeth erbyn amser cinio, ond gallwn wneud trefniadau i ddechrau’n hwyrach.

Mae’r asesiad yn para 2 awr. Ar ôl egwyl 5-10 munud, gofynnir i’r disgyblion lenwi’r holiadur ar-lein, a fydd yn cymryd oddeutu 30-40 munud.

Bydd ein Gweinyddwyr y Prawf yn cyrraedd o leiaf awr cyn yr amser dechrau a ddewisoch i baratoi’r ystafell. Dylai Cydlynydd yr Ysgol geisio cyrraedd tua’r un pryd. Gwerthfawrogir lle parcio ar safle’r ysgol os oes un ar gael.

Llenwir holiadur yr ysgol cyn y diwrnod asesu. Bydd cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gael at yr holiadur yn cael eu hanfon at Gydlynydd yr Ysgol. Fe ddylai gymryd oddeutu 30 munud i lenwi’r holiadur.

12) A oes angen i’r disgyblion ddod ag unrhyw beth neu baratoi?

Nid oes angen i’r disgyblion wneud unrhyw waith na pharatoi o flaen llaw i gwblhau’r asesiad

Dylai’r disgyblion ddod â chyfrifiannell a llyfr i’w ddarllen yn dawel os byddant yn gorffen yr asesiad yn gynnar.

13) Ble dylai’r astudiaeth gael ei chynnal a pha offer TG y bydd arnom eu hangen?

Bydd angen i’r disgyblion wneud yr asesiad mewn ystafell dawel lle nad oes unrhyw beth i dynnu eu sylw. Gall y disgyblion eistedd wrth ymyl ei gilydd gyda’r un faint o le rhyngddynt ag mewn ystafell ddosbarth arferol.

Bydd angen i bob disgybl gael mynediad at gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd, bysellfwrdd a llygoden. Byddai’n ddelfrydol defnyddio un neu ddwy ystafell TG (yn dibynnu ar nifer y disgyblion) neu ystafell ddosbarth sydd â gliniaduron a wi-fi/y rhyngrwyd.

14) A fydd angen i mi osod cyfleusterau TG a wi-fi o flaen llaw?

Byddwn yn cysylltu’n agos â’ch Cydlynydd Ysgol enwebedig a’ch Cydlynydd TG cyn y diwrnod asesu i sicrhau bod y cyfleusterau TG yn eich ysgol wedi’u gosod yn gywir.

Ar y diwrnod asesu, bydd arnom angen:

  • cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd, bysellfwrdd a llygoden ar gyfer pob disgybl: gall hwn fod yn liniadur neu’n gyfrifiadur personol a bydd ei angen am 3 awr ar y mwyaf (gan gynnwys egwyliau)
  • os defnyddir gliniaduron, dylent gael eu gwefru’n llawn cyn diwrnod yr astudiaeth
  • cysylltiad wi-fi neu ryngrwyd, oherwydd cyrchir yr asesiadau a’r holiaduron dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio system fewngofnodi ddiogel
  • gofynnwn hefyd i’ch Cydlynydd TG fod ar gael ar y diwrnod asesu i gynorthwyo ag unrhyw broblemau a allai godi.

Ym mis Medi/Hydref, byddwn yn anfon dolen atoch i gynnal prawf diagnostig awtomataidd byr (5 munud) ar un o’r cyfrifiaduron ar system eich ysgol, i brofi cydnawsedd eich cyfrifiaduron â safle Amazon Workplace (sy’n cynnal yr asesiadau). Os bydd y prawf yn canfod unrhyw broblemau, byddwn yn cysylltu â chi ac yn gweithio gyda’ch staff TG i gywiro’r broblem/problemau.

Os nad oes gan eich ysgol ddigon o gyfrifiaduron personol neu liniaduron, gallwn ddarparu gliniaduron ychwanegol ar gyfer yr asesiadau: cysylltwch â Thîm Cymorth PISA a fydd yn falch o’ch helpu.

15) Beth yw prif ddyletswyddau Cydlynydd PISA yr ysgol?

Bydd Tîm Cymorth PISA yn cynorthwyo Cydlynydd PISA eich ysgol drwy gydol y broses ac yn ceisio lleihau’r gofynion gweinyddol gymaint â phosibl. Yn aml, dewisir athro dosbarth/athrawes ddosbarth blwyddyn 11 (blwyddyn 12 yng Ngogledd Iwerddon) neu swyddog arholiadau ar gyfer y rôl hon. Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys:

  • Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer Pearson a’r Gweinyddwr Prawf PISA.
  • Cytuno ar y dyddiad a gwneud trefniadau i ddisgyblion gwblhau’r asesiad yn yr ysgol.
  • Gweithio gyda Pearson i gadarnhau manylion yr holl ddisgyblion sy’n gymwys ac yna’r rhai hynny a ddewisir i gymryd rhan.
  • Rhoi gwybod i ddisgyblion a rhieni am yr astudiaeth, gan ddefnyddio’r llythyrau templed a ddarperir gan Pearson.
  • Rhoi gwybod i fwrdd y llywodraethwyr fod yr ysgol yn cymryd rhan yn yr astudiaeth (efallai bydd eich Pennaeth/Prifathro eisiau gwneud hyn).
  • Sicrhau bod cyfleusterau TG wedi’u gosod yn barod ar gyfer asesiadau ar-lein.
  • Sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau a anfonir cyn yr astudiaeth yn cael eu storio’n ddiogel.
  • Goruchwylio’r broses o ddosbarthu, llenwi a chasglu holiaduron ysgol cyn dyddiad y prawf.
  • Ar y diwrnod asesu, cynorthwyo’r Gweinyddwyr y Prawf PISA (gweler y ddogfen Camau Nesaf, adran pedwar ‘Diwrnod yr astudiaeth’).

Mae’r ddogfen Camau Nesaf yn rhoi gwybodaeth fanylach am ddyletswyddau Cydlynydd PISA yr ysgol.

Efallai bydd Swyddog Monitro Ansawdd yn mynychu eich sesiwn i wirio ein bod yn cynnal yr astudiaeth mewn ffordd debyg ym mhob ysgol. Os bydd hyn yn digwydd, gofynnir rhai cwestiynau i Gydlynydd yr Ysgol am y trefniadau y gofynnwyd i’ch ysgol eu gwneud a’ch barn am y ffordd y trefnwyd yr astudiaeth.

16) Beth os nad yw disgybl eisiau ateb cwestiwn penodol?

Anogir disgyblion i wneud eu gorau wrth ateb cwestiynau’r asesiad er mwyn dangos beth maen nhw’n ei wybod ac yn gallu ei wneud. Yn yr holiadur, anogir disgyblion i roi atebion gonest, gan wybod y bydd eu hymatebion yn aros yn gyfrinachol drwy gydol y broses. Fodd bynnag, caiff disgyblion ymatal rhag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau nad ydynt yn gyfforddus yn ei ateb/eu hateb.

17) A fydd y canlyniadau’n aros yn gyfrinachol?

Byddant – bydd enwau disgyblion ac ysgolion yn aros yn gyfrinachol ac ni fydd canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi.

Bydd y data a rennir â threfnwyr yr astudiaeth ryngwladol yn cael eu dad-adnabod: bydd manylion disgyblion ac ysgolion yn cael eu dileu a’u disodli â chod fel na ellir adnabod unrhyw ysgol na disgybl unigol.

Bydd y data’n cael eu dadansoddi ochr yn ochr â data ysgolion eraill yng Nghymru/ yn Lloegr/yng Ngogledd Iwerddon ac mewn gwledydd eraill sy’n cymryd rhan. Bydd canfyddiadau ynglŷn â phob gwlad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad rhyngwladol gan yr OECD yn 2023. Bydd academyddion ym Mhrifysgol Rhydychen yn cynhyrchu adroddiadau ar gyfer gwledydd yn 2023. Ni fydd y llywodraeth nac unrhyw sefydliad y caniateir iddo gael at y data i wneud cymariaethau rhyngwladol neu waith ymchwil yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n adnabod neu’n galluogi adnabod unrhyw unigolyn neu ysgol sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

18) Sut bydd yr astudiaeth yn diogelu data fy ysgol?

Mae diogelu data’n bwysig iawn i ni ac rydym yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn cael ei dal yn ddiogel, ac ni fydd unrhyw ddisgybl nac ysgol unigol yn cael ei (h)adnabod nac yn adnabyddadwy mewn unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad. Byddwn yn dal y data PISA yn ddigon hir i ddadansoddi ac adrodd ar yr astudiaeth yn unig, ac yna byddwn yn dileu’r data o’n systemau.

Gallwch weld hysbysiadau preifatrwydd data yn www.pisa2022.uk/data-protection/.

19) Sut bydd disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod am yr astudiaeth?

Byddwn yn rhoi llythyrau templed i chi i’w hanfon at ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth a’u rhieni/gwarcheidwaid. Bydd y templedi hyn yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost fel y gallwch eu golygu fel y bo’r angen a’u hargraffu neu ddosbarthu’n electronig. Byddwn yn rhoi llythyrau i chi ynglŷn â phreifatrwydd data (un i ddisgyblion ac un i rieni) y mae’n rhaid eu hanfon at ddisgyblion a’u rhieni/gwarcheidwaid ac na ddylid eu newid. Dylid anfon y llythyrau pan fyddwn wedi cadarnhau pa ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth (nid cyn hynny).

I gael gwybod mwy, gellir cyfeirio rhieni/gwarcheidwaid at y wefan bwrpasol rydym wedi’i sefydlu ar gyfer PISA 2022 yn benodol ar gyfer cyfranogwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn www.pisa2022.uk.

20) Ble allaf gael cymorth/mwy o wybodaeth?

Gellir cysylltu â Thîm Cymorth PISA o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 4pm ar 020 7010 2010 neu drwy anfon neges e-bost at pisa2022@pearson.com.

I gael gwybod mwy am PISA 2022, ewch i’r wefan bwrpasol rydym wedi’i creu ar gyfer PISA 2022 yn benodol ar gyfer cyfranogwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, www.pisa2022.uk

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am PISA, ewch i’r adran PISA ar wefan yr OECD yn www.oecd.org/pisa/aboutpisa/