Beth yw PISA?
Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn cael ei chynnal mewn dros 80 o wledydd, a dyma’r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd sy’n cymharu systemau addysg ledled y byd. Fe’i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal bob 3 blynedd ac yn ein helpu i ddeall pa mor dda y gall disgyblion 15 oed gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen. Fodd bynnag, oherwydd y tarfu sydd wedi’i achosi gan y pandemig coronafeirws, mae asesiad PISA 2021 wedi’i ohirio tan 2022.
Diben yr astudiaeth yw llunio gwybodaeth am ddysgu a datblygiad disgyblion er mwyn dysgu mwy am y ffordd orau o helpu disgyblion i feistroli pynciau allweddol. Caiff canlyniadau PISA eu defnyddio gan ein llywodraeth ni a llywodraethau ledled y byd i gymharu cryfderau a gwendidau eu systemau addysg. Mae’n cynnig cyfle i gymharu ein cyflawniad yn rhyngwladol ac i ddysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill.
Mae Pearson a’u partneriaid yng Nghanolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen (OUCEA), yn yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi’u comisiynu i gynnal astudiaeth PISA 2022 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ran eu llywodraethau.
Os hoffech weld enghreifftiau o’r math o gwestiynau sy’n cael eu cynnwys yn astudiaeth a holiaduron PISA, maent i’w gweld yma ac yma. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan PISA OECD hefyd.
Llinell amser PISA:
Rhagor o wybodaeth:
Gallwch weld adroddiadau cenedlaethol blaenorol yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan PISA OECD hefyd.
Mae recordiad o’r weminar ‘What can we learn from PISA 2018 and what can we expect from PISA 2022? Lessons learned from England, Northern Ireland, and Wales’ ar gael yma.
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau cylch PISA 2018 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yma.
Mae’r fideo canlynol yn rhoi mwy o wybodaeth gefndir am PISA: