Beth yw PISA?
Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn astudiaeth ryngwladol a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn cynnal profion i ddisgyblion 15 oed ledled y byd mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Fodd bynnag, oherwydd y tarfu sydd wedi’i achosi gan y pandemig coronafeirws, mae asesiad PISA 2021 wedi’i ohirio tan 2022, gyda dros 80 o wledydd yn cymryd rhan yn y cylch hwn.
Mae’r profion wedi’u llunio i asesu pa mor dda mae disgyblion yn meistroli pynciau allweddol er mwyn cael eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd go iawn mewn oedolaeth. Mae ein Llywodraeth a llywodraethau ledled y byd yn defnyddio canlyniadau PISA i gymharu’r cryfderau a’r gwendidau yn eu system addysg. Mae’n gyfle i gymharu ein cyflawniad yn rhyngwladol a dysgu oddi wrth bolisïau ac arferion gwledydd eraill.
Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr astudiaeth?
Bydd yr astudiaeth yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol arferol. Byddwn yn gofyn i’ch plentyn ateb rhai cwestiynau amlddewis a rhai cwestiynau penagored am fathemateg, darllen a gwyddoniaeth ar gyfrifiadur ac yn gofyn iddo/iddi lenwi holiadur byr ar-lein.
Os hoffech weld rhai enghreifftiau o’r mathau o gwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn astudiaeth PISA, maent i’w gweld yma a gallwch weld enghraifft o’r holiadur i ddisgyblion.
A ddylwn baratoi fy mhlentyn?
Nid oes angen i’ch plentyn wneud unrhyw waith paratoi ymlaen llaw.
A fydd PISA yn effeithio ar ei (g)waith ysgol?
Bydd cymryd rhan yn PISA yn cefnogi’r gwaith mae’ch plentyn yn ei wneud tuag at ei (h)arholiadau ac yn rhoi cyfle iddo/iddi ymarfer dan amodau arholiad, ond ni fydd ei (h)atebion yn effeithio ar ei (g)waith ysgol na’i ganlyniadau/chanlyniadau.
Mae preifatrwydd a diogelwch data’r disgyblion rydym yn gweithio â nhw yn bwysig iawn i ni: nid ydym yn rhannu atebion unigol i gwestiynau na chanlyniadau sy’n dangos enw eich plentyn â’r ysgol.
Sut mae canlyniadau fy mhlentyn yn cael eu defnyddio a pha mor bwysig ydyw bod fy mhlentyn yn cymryd rhan?
Bydd data PISA sy’n cael ei gasglu o ysgol eich plentyn yn cael ei ddadansoddi ochr yn ochr â data ysgolion eraill ledled y wlad ac yn y gwledydd eraill sy’n cymryd rhan. Mae’r canfyddiadau am bob gwlad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad rhyngwladol gan OECD, a bydd adroddiad ar gyfer y wlad yn cael ei ysgrifennu gan academyddion ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2022. Ni fydd canlyniadau ysgolion neu ddisgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi.
Diben yr astudiaeth yw llunio gwybodaeth am ddysgu a datblygiad disgyblion, er mwyn dysgu mwy am y ffordd orau i gynorthwyo disgyblion i feistroli pynciau allweddol. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn rhan hanfodol o’r sylfaen dystiolaeth am ein system addysg: mae natur ryngwladol astudiaeth PISA yn ein galluogi i feincnodi ein system addysg â gwledydd eraill ledled y byd ac yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth bolisïau ac arferion gwledydd eraill.
Hoffem ddiolch i’ch plentyn am gymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn: heb gyfranogiad y disgyblion hynny sy’n cael eu dewis ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth, mae ein data’n annhebygol o gael ei ystyried yn ddigon da i’w ddadansoddi neu i roi tystiolaeth ddilys.
Pwy sy’n cynnal yr astudiaeth?
Comisiynwyd Pearson a’u partneriaid ym Mhrifysgol Rhydychen i gynnal astudiaeth PISA 2022 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ran eu Llywodraethau.
Preifatrwydd data a sut rydym yn defnyddio data personol
Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw’n ddiogel ac ni fydd unrhyw ddisgyblion nac ysgolion unigol yn adnabyddadwy mewn unrhyw adroddiad na chyhoeddiad. Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen i gynnal gwaith dadansoddi ac adrodd mewn perthynas â’r astudiaeth y bydd y Ganolfan Genedlaethol (Pearson ac OUCEA) yn cadw data PISA ac, ar ôl hynny, bydd yn dileu’r data o’i systemau.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am breifatrwydd data a’r hysbysiad preifatrwydd llawn yma.
Beth rydym wedi’i ddysgu o PISA?
Gallwch weld yr adroddiadau cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yma.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae pob croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.