I Ddisgyblion

Beth yw PISA?

Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn astudiaeth ryngwladol a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o’r byd mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws, cafodd asesiad PISA 2021 ei ohirio tan 2022, ac mae dros 80 o wledydd yn cymryd rhan yn y cylch hwn.

Bwriad y profion yw asesu i ba raddau y mae’r disgyblion yn llwyddo i feistroli pynciau allweddol er mwyn bod yn barod ar gyfer sefyllfaoedd go iawn fel oedolion. Caiff canlyniadau PISA eu defnyddio gan ein llywodraeth ni a llywodraethau ledled y byd i gymharu cryfderau a gwendidau eu systemau addysg. Mae’n cynnig cyfle i gymharu ein cyflawniad yn rhyngwladol ac i ddysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill.

Edrychwch ar dudalen PISA i gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth.

Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr astudiaeth?

Bydd yr astudiaeth yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol arferol. Byddwn yn gofyn i chi ateb rhai cwestiynau amlddewis a rhai cwestiynau penagored am fathemateg, darllen a gwyddoniaeth ar gyfrifiadur ac yn gofyn i chi lenwi holiadur byr ar-lein.

Os hoffech weld rhai enghreifftiau o’r mathau o gwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn astudiaeth PISA, maent i’w gweld yma a gallwch weld enghraifft o’r holiadur i ddisgyblion.

Mae’r asesiad yn para tua 2 awr a bydd yr holiadur ar-lein yn cymryd tua 30-40 munud. Byddwch yn cael seibiant byr rhwng y ddau ohonynt.

A oes angen i mi baratoi?

Nid oes angen i chi wneud unrhyw waith paratoi ymlaen llaw. Dewch â chyfrifiannell a llyfr gyda chi i’w ddarllen yn dawel os byddwch yn gorffen yr astudiaeth yn gynnar.

A fydd PISA yn effeithio ar fy ngwaith ysgol?

Bydd cymryd rhan yn PISA yn cefnogi’r gwaith rydych chi’n ei wneud tuag at eich arholiadau ac yn rhoi cyfle i chi ymarfer dan amodau arholiad, ond ni fydd eich atebion yn effeithio ar eich gwaith ysgol na’ch canlyniadau.

Mae preifatrwydd a diogelwch data’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw yn bwysig iawn i ni: nid ydym yn rhannu eich atebion unigol i gwestiynau na chanlyniadau sy’n dangos eich enw gyda’ch ysgol.

Sut mae fy nghanlyniadau’n cael eu defnyddio?

Bydd data PISA sy’n cael ei gasglu o’ch ysgol yn cael ei ddadansoddi ochr yn ochr â data ysgolion eraill ledled y wlad ac yn y gwledydd eraill sy’n cymryd rhan. Mae’r canfyddiadau am bob gwlad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad rhyngwladol gan OECD, a bydd adroddiad ar gyfer y wlad yn cael ei ysgrifennu gan academyddion ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2022. Ni fydd canlyniadau ysgolion neu ddisgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi.

Diben yr astudiaeth yw llunio gwybodaeth am ddysgu a datblygiad disgyblion, er mwyn dysgu mwy am y ffordd orau i gynorthwyo disgyblion i feistroli pynciau allweddol. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn rhan hanfodol o’r sylfaen dystiolaeth am ein system addysg: mae natur ryngwladol astudiaeth PISA yn ein galluogi i feincnodi ein system addysg â gwledydd eraill ledled y byd ac yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth bolisïau ac arferion gwledydd eraill.

Hoffem ddiolch i’r disgyblion hynny sy’n cael eu dewis ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth am eu cyfranogiad yn y prosiect pwysig hwn: heb eich cyfranogiad, mae ein data’n annhebygol o gael ei ystyried yn ddigon da i’w ddadansoddi neu i roi tystiolaeth ddilys.

Pwy sy’n cynnal yr astudiaeth?

Comisiynwyd Pearson a’u partneriaid ym Mhrifysgol Rhydychen i gynnal astudiaeth PISA 2022 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ran eu Llywodraethau.

Data preifatrwydd a sut rydym yn defnyddio data personol

Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw’n ddiogel ac ni fydd unrhyw ddisgyblion nac ysgolion unigol yn adnabyddadwy mewn unrhyw adroddiad na chyhoeddiad. Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen i gynnal gwaith dadansoddi ac adrodd mewn perthynas â’r astudiaeth y bydd y Ganolfan Genedlaethol (Pearson ac OUCEA) yn cadw data PISA ac, ar ôl hynny, bydd yn dileu’r data o’i systemau.

Gallwch weld mwy o wybodaeth am breifatrwydd data a’r hysbysiad preifatrwydd llawn yma.

Beth ydym wedi’i ddysgu o PISA?

Gallwch weld yr adroddiadau cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yma.

Sut y caiff disgyblion eu dewis i gymryd rhan?

Caiff ysgolion eu dewis ar hap i gymryd rhan yn PISA gan drefnwyr yr astudiaeth, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd: bydd 40 o ddisgyblion 15 oed a gaiff eu dewis ar hap fesul ysgol yn cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae pob croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.