Pa wybodaeth a gaiff ei chasglu a pham?
Mae Pearson UK a’i bartner, OUCEA ym Mhrifysgol Rhydychen wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth PISA 2022 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ran eu Llywodraethau. Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw’n ddiogel ac ni fydd unrhyw ddisgyblion nac ysgolion unigol yn adnabyddadwy mewn unrhyw adroddiad na chyhoeddiad. Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen i gynnal gwaith dadansoddi ac adrodd mewn perthynas â’r astudiaeth y bydd y Ganolfan Genedlaethol (Pearson ac OUCEA) yn cadw data PISA ac, ar ôl hynny, bydd yn dileu’r data o’i systemau.
Diben yr astudiaeth yw llunio ystadegau am ddysgu a datblygiad disgyblion er mwyn dysgu mwy am y ffordd orau o helpu disgyblion i feistroli pynciau allweddol. Byddwn yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae disgyblion wedi’i ddysgu o’u hatebion i gwestiynau asesu PISA. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau i ddisgyblion am eu hagweddau a’r hyn sy’n eu cymell er mwyn helpu i ddeall sut mae hyn yn cyfrannu at berfformiad disgyblion. Caiff yr holl ddata o’r astudiaeth eu rhoi dan ffugenw (h.y. caiff unrhyw fanylion y gellid eu defnyddio i adnabod disgyblion neu eu hysgol eu dileu a rhoddir cod yn eu lle) a’u cyfuno ag ymatebion gan ddisgyblion ac ysgolion eraill sy’n cymryd rhan yn genedlaethol a’u cymharu â chanlyniadau disgyblion ledled y byd. Os bydd unrhyw gwestiynau nad yw disgyblion yn awyddus i’w hateb, gallant eu gadael yn wag.
Os hoffech chi weld enghreifftiau o’r math o gwestiynau a gaiff eu cynnwys yn astudiaeth a holiaduron PISA, gallwch eu gweld yma ac yma.
Sut rydym yn defnyddio data personol
At ddibenion y gwaith ymchwil hwn, bydd yr Adran Addysg / Llywodraeth Cymru / Adran Addysg a’u contractwyr cymeradwy yn cysylltu’r wybodaeth â gwybodaeth arall y mae’r Adran Addysg / Llywodraeth Cymru / Adran Addysg eisoes yn meddu arni (fel Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion) neu y mae ganddi’r hawl gyfreithiol i’w gweld o ffynonellau eraill. Drwy wneud hynny, ni fydd angen gofyn dro ar ôl tro i gyfranogwyr roi gwybodaeth rydym eisoes yn meddu arni a byddwn yn gallu dadansoddi buddiannau tymor hwy dysgu cynnar. Mae hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gael gan ddefnyddio’r dolenni uchod.
Hoffem ddiolch i’r holl ysgolion a disgyblion sy’n cymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.