Fideos

Asesiad byd-eang sy’n mesur llythrennedd mathemategol, llythrennedd darllen a llythrennedd gwyddonol disgyblion 15 oed yw PISA. Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig cyfle i wledydd nodi i ba raddau y mae eu disgyblion yn gallu cymhwyso’r hyn y maent yn ei wybod at sefyllfaoedd go iawn. Isod, gallwch wylio fideos sy’n llawn gwybodaeth am gylchoedd PISA blaenorol a’r hyn i’w ddisgwyl yn PISA 2022.

Mae’r fideos canlynol a grëwyd gan ymchwilwyr OUCEA, gyda chydweithwyr o Brifysgol Rhydychen, yn rhoi trosolwg o ganlyniadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn PISA 2018.


Yn y fideo canlynol ceir recordiad o’r weminar am PISA 2022, lle mae arbenigwyr gwledydd yn rhannu’r hyn rydym yn ei wybod hyd yn hyn am gyflawniad disgyblion yn PISA a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn PISA 2022 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ar 14 Chwefror 2022, bu Canolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen (OUCEA), o dan arweiniad yr Athro Therese N. Hopfenbeck (Cyfarwyddwr ac Athro, OUCEA, Cymrawd Swyddogol yng Ngholeg Kellogg ac Arweinydd Ymchwil a Lledaenu PISA 2022) a thîm Pearson, o dan arweiniad yr Athro Cyswllt Grace Grima (Cyfarwyddwr Ymchwil yn Pearson UK a Rheolwr Prosiect Cenedlaethol PISA 2022 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn trafod ag arbenigwyr a rannodd wybodaeth ddefnyddiol am yr hyn a ddysgwyd am gyflawniadau disgyblion yn seiliedig ar ganlyniadau PISA 2018. Ysgogodd y weminar hefyd drafodaeth gyffrous yn arwain at well dealltwriaeth o PISA 2022, gan gynnwys natur y trefniadau asesu, effaith COVID-19 a’r camau nesaf wrth i ni baratoi i gymryd rhan yn un o’r asesiadau byd-eang mwyaf adnabyddus ac unigryw.

Roedd yn gyfle gwych i ddod â 118 o gyfranogwyr o 17 o wledydd at ei gilydd, gan gynnwys pobl o’r Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Awstralia, Kenya, Ghana, a Hong Kong.

Hoffem ddiolch i Goleg Kellogg am ddarparu cymorth technegol a chyfathrebu ac i Lywodraeth Cymru, yr Adran Addysg yn Lloegr a’r Adran Addysg yng Ngogledd Iwerddon am eu cymorth i baratoi’r weminar hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau pellach, cysylltwch â thîm PISA yn pisa2022@pearson.com

Prif siaradwyr

Yr Athro Chris Taylor, cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru, Prifysgol Caerdydd: Are we preparing our young boys to succeed for tomorrow’s world?

Dr. Jenni Ingram, Athro Cyswllt Addysg Fathemateg, Yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen: Trends and analysis in Mathematics, what is behind the numbers?

Yr Athro Jannette Elwood, Deon Astudiaethau Graddedig, Prifysgol Queen’s, Belfast: The gender gap. Lessons learned from PISA 2018.