Blogiau

Gallwch edrych ar flogiau ar ganlyniadau PISA Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan ymchwilwyr OUCEA yma.

PISA: Cyfle byd-eang i leisio barn ar bolisi addysg

Professor Therese N. Hopfenbeck and Dr Samantha-Kaye Johnston

Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn asesiad byd-eang gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a gaiff ei gwblhau gan ddisgyblion 15 oed ledled y byd, gan asesu eu gallu i gymhwyso egwyddorion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth at y byd go iawn. Ers 2000, mae PISA wedi cael ei weinyddu bob 3 blynedd mewn mwy na 90 o wledydd. Gohiriwyd PISA 2021 tan 2022 oherwydd y pandemig, ond rydym wrthi nawr yn cynllunio ar gyfer casglu data yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer PISA 2022 a chaiff canlyniadau rhyngwladol eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.

Bydd tîm ymchwil PISA 2022 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ymweld â chyfanswm o fwy na 450 o ysgolion er mwyn gweinyddu PISA 2022. Mae cylch PISA 2022 yn cynnig cyfle unigryw i ni weld, ar raddfa fawr, sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ddisgyblion o fewn gwahanol systemau addysgol. Yn sicr, nid yw dod i gasgliadau drwy gymharu data rhyngwladol bob amser yn broses syml, o ystyried yr amrywiaeth o sefyllfaoedd cyd-destunol o fewn pob system addysgol ac o fewn pob ysgol. Eto, ar yr un pryd, mae’r wybodaeth hon yn galluogi llywodraethau i weld sut y caiff systemau addysg effeithiol eu rhoi ar waith. Bydd hefyd yn darparu rhywfaint o ddata pwysig ar les a chyflawniadau disgyblion yn ystod y cyfnod heriol hwn ac yn galluogi gwneuthurwyr polisi i ddefnyddio data i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.

Dangosodd canlyniadau cylch diwethaf PISA (PISA 2018) rai cyflawniadau newydd i wledydd y DU. Er enghraifft, am y tro cyntaf yng nghylchoedd PISA, gwelwyd cynnydd sylweddol yn sgôr gyfartalog gyffredinol Lloegr o gymharu â PISA 2015. Cynyddodd cyfartaledd mathemateg Lloegr o 493 yn 2015, i 504 yn 2018, cynnydd a gafodd ei briodoli i’r gwelliant o ran perfformiad bechgyn mewn mathemateg, o gymharu â chylch 2015, yn ogystal â gwelliant o ran perfformiadau cyflawnwyr is. Roedd gan Ogledd Iwerddon sawl rheswm dros ddathlu hefyd o ran perfformiad darllen yn PISA 2018. Am y tro cyntaf, roedd sgôr darllen Gogledd Iwerddon yn uwch na chyfartaledd OECD, wrth i’r wlad gyflawni sgôr gymedrig o 501, a oedd yn sylweddol uwch na chyfartaledd OECD, sef 487. Yn ddiddorol, i Gymru, PISA 2018 oedd y tro cyntaf na fu unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng sgôr Cymru a chyfartaledd OECD yn y tri maes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth). Yn ogystal, roedd perfformiad disgyblion yng Nghymru hefyd yn well mewn darllen a mathemateg na’r canlyniadau pan gymerodd Cymru ran yn PISA am y tro cyntaf yn 2006. Yn drawiadol, ers 2009, gwellodd perfformiad Cymru yn sylweddol, gan awgrymu bod perfformiad darllen disgyblion yng Nghymru wedi bod yn gwella dros amser.

Yn ogystal ag asesu cyflawniadau disgyblion, mae PISA yn casglu gwybodaeth gyd-destunol gan ddisgyblion drwy holiaduron i ddisgyblion, gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’u lles cyffredinol, y gellir dod i gasgliadau yn ei gylch drwy asesu elfennau o hinsawdd y cartref a’r ysgol a boddhad disgyblion â’u bywydau, yn ogystal â’u lles goddrychol. Yn seiliedig ar ganfyddiadau Holiadur i Ddisgyblion PISA 2018, ar gyfartaledd, roedd disgyblion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn fwy tebygol o deimlo’n drist ac yn ofidus, o gymharu â chyfartaledd OECD, a ddangosir ar gyfer Lloegr yn Ffigur 1. Drwy gael gafael ar y wybodaeth hon, mae PISA yn cynnig cyfle ardderchog i ysgolion gael manylion am sut y gallant helpu disgyblion i ddysgu, gan gynnwys y potensial i gynnig mwy o gyfleoedd
gofal bugeiliol mewn ysgolion. At hynny, mae PISA yn cynnig cyfle unigryw i ystyried sut mae lles wedi newid dros amser, gan ystyried effaith y pandemig, ac a oes ffactorau penodol yn bodoli sy’n ysgogi newidiadau o ran lles.

Ffynhonnell: PISA 2018 Adroddiad Cenedlaethol Lloegr

Ffigur 1. Canran y disgyblion yn Lloegr a nododd byth, anaml iawn, weithiau a bob amser ar gyfer pob
teimlad negyddol a gafodd ei gynnwys yn Holiadur i Ddisgyblion PISA 2018.

Mae ymrwymiad parhaus i ddefnyddio PISA fel mesur byd-eang i asesu effeithiolrwydd systemau addysg, sef ymrwymiad sydd wedi’i osod o fewn cyd-destun y nod o sicrhau profiadau dysgu tecach. Fodd bynnag, dim ond â chydweithrediad ysgolion a disgyblion y gallwn fod yn siŵr bod yr astudiaeth yn llwyddiannus, ein bod yn casglu data dibynadwy o ansawdd da ac y gallwn sicrhau bod y canlyniadau yn gywir ac yn cyflwyno darlun cynrychioliadol o addysg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r wybodaeth a gaiff ei chasglu gan PISA yn rhan bwysig o’r sail dystiolaeth ym maes addysg, gan alluogi llywodraethau ledled y DU i feincnodi eu systemau yn erbyn systemau rhyngwladol, a dysgu o bolisïau ac arferion mewn gwledydd eraill er mwyn darparu’r addysg sydd ei hangen ar ein pobl ifanc i lwyddo yn eu bywydau fel oedolion. Gyda’n gilydd, gadewch i ni barhau i gydweithio yn y fenter fyd-eang hon wrth i ni lywio polisi ac ymarfer addysg yn yr oes ôl-COVID. Gellir cydweithio yn y fath fodd drwy gymryd rhan
mewn asesiadau rhyngwladol, fel PISA 2022, er mwyn sicrhau bod data o ansawdd da ar gael i randdeiliaid addysgol, gan gynnwys gwneuthurwyr polisi, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Er mwyn dysgu mwy am gylch diweddaraf PISA (PISA 2018) a beth i’w ddisgwyl gan PISA 2022, gallwch wylio’r recordiad o’n gweminar ddiweddar ar PISA 2022 yma.