Beth yw PISA?
Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn astudiaeth ryngwladol a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o’r byd mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws, cafodd asesiad PISA 2021 ei ohirio tan 2022, ac mae dros 80 o wledydd yn cymryd rhan yn y cylch hwn.
Bwriad y profion yw asesu i ba raddau y mae’r disgyblion yn llwyddo i feistroli pynciau allweddol er mwyn bod yn barod ar gyfer sefyllfaoedd go iawn fel oedolion. Caiff canlyniadau PISA eu defnyddio gan ein llywodraeth ni a llywodraethau ledled y byd i gymharu cryfderau a gwendidau eu systemau addysg. Mae’n cynnig cyfle i gymharu ein cyflawniad yn rhyngwladol ac i ddysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill.
Edrychwch ar dudalen PISA i gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth.
Pam mae Cymru yn cymryd rhan yn PISA?
PISA yw’r arolwg addysg rhyngwladol mwyaf yn y byd sy’n mesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion 15 oed. Mae’n creu darlun cenedlaethol o gyflawniad disgyblion yn y grŵp oedran hwn, gan arwain at oblygiadau i bolisi a datblygiadau lleol a chenedlaethol, a helpu i ffurfio addysg yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.
Mae PISA yn ein helpu i ddeall pa mor dda y gall disgyblion gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen i ddadansoddi, rhesymu a chyfathrebu’n effeithiol wrth iddynt archwilio, dehongli a datrys problemau. Mae’r astudiaeth hefyd yn casglu gwybodaeth werthfawr am agweddau a chymhellion disgyblion i helpu i ddeall sut maen nhw’n cyfrannu at berfformiad disgyblion.
Mae PISA yn rhoi cyfle i gymharu cyflawniad yn rhyngwladol ac yn annog gwledydd i ddysgu gan ei gilydd, gan greu systemau ysgol tecach a mwy cynhwysol. Hyd yma, mae mwy nag 80 o wledydd ac economïau wedi cymryd rhan, gan ddarparu set gyfoethog o ddata i’w chymharu.
Sut bydd fy ysgol yn elwa o gymryd rhan yn yr astudiaeth?
Mae’r ysgolion a’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn PISA yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddeall ein system addysg, a dim ond gyda’r cyfranogiad hwn y gallwn wireddu’r cyfleoedd a geir yn sgil PISA i wella ein polisïau a’n harferion addysgol.
Trwy gymryd rhan yn PISA, byddwch yn:
-Cefnogi astudiaeth sy’n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well, gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi a datblygiadau cenedlaethol.
-Cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy’n ffurfio diwygiadau addysgol yn fyd-eang, gan helpu i godi safonau a lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad. Gallwch weld sut mae PISA yn ffurfio diwygiadau addysg trwy fynd i www.oecd.org/pisa/aboutpisa/.
-Taflu goleuni ar feysydd fel cydraddoldeb cymdeithasol a rhywiol, ac agweddau at ddysgu, gan ganiatáu i lunwyr polisïau ddysgu o arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwlado.
Byddwch yn rhoi cyfle i’ch disgyblion:
-Fynd i’r afael â chwestiynau sy’n herio eu gallu i adalw gwybodaeth a’i chymhwyso’n greadigol, trwy gwestiynau wedi’u seilio ar senario.
-Ymarfer eu sgiliau asesu allanol trwy asesiad ar-lein arloesol lle nad oes llawer yn y fantol ac nid oes angen paratoi ar ei gyfer o flaen llaw. Fe allai hyn fod yn brofiad gwerthfawr iawn i ddisgyblion, ar ôl i arholiadau allanol gael eu canslo yn 2020 a 2021 ac effeithiau eraill pandemig y coronafeirws.
-Cael profiad o gynrychioli Cymru/Lloegr/Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth fyd-eang bwysig.
Bydd eich ysgol yn cael adroddiad adborth personol sy’n cynnwys gwybodaeth am safbwyntiau eich disgyblion mewn amrywiaeth o feysydd, e.e. agweddau at fathemateg, ymdeimlad o berthyn a lles (ar yr amod bod nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan yn eich ysgol yn ddigon uchel i ddiogelu cyfrinachedd disgyblion). Mae’r adroddiad personol hwn
yn gyfle i fesur a deall lles eich disgyblion yn well a dysgu o’u profiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Mae enghraifft o’r adroddiad hwn wedi’i chynnwys yn y pecyn croeso a gellir ei gweld ar wefan PISA www.pisa2022.uk/for-schools.
Pa gymorth sy’n cael ei roi i’r ysgolion sy’n cymryd rhan?
Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ysgolion i’r astudiaeth bwysig hon yn fawr, ac rydym yn ymrwymo i sicrhau bod cymryd rhan mor syml â phosibl i’ch staff a’ch disgyblion. Nid yw’n mynnu llawer o waith gweinyddol gan staff yr ysgol ac nid oes unrhyw waith paratoi i ddisgyblion ymlaen llaw. Bydd Gweinyddwr Profion PISA yn bresennol yn eich ysgol ar ddiwrnod yr astudiaeth i weinyddu’r prawf ac nid oes angen i chi wneud unrhyw farcio.
Rydym yn gofyn i’r ysgolion sy’n cymryd rhan benodi aelod staff i fod yn Gydlynydd PISA yr Ysgol. Bydd yr unigolyn penodedig yn cael Pecyn Croeso a Llawlyfr Cydlynydd yr Ysgol, a fydd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno/arni i baratoi ar gyfer yr astudiaeth.
Mae gennym dîm penodedig i’ch cynorthwyo drwy gydol yr astudiaeth. Gallwch gysylltu â Thîm Cymorth PISA ag unrhyw gwestiynau sydd gennych (o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Beth mae’r asesiad yn ei gynnwys?
Mae astudiaeth PISA yn cynnwys asesiad dwy awr ar gyfrifiadur, lle bydd disgyblion yn ateb cwestiynau amlddewis a phenagored ar fathemateg, gwyddoniaeth a darllen. Bydd pob disgybl yn cymryd cyfuniadau gwahanol o eitemau prawf o fewn banc cwestiynau mwy.
Yn PISA 2022, mathemateg fydd y maes ffocws. Mae’r profion wedi’u llunio i gipio sut mae disgyblion yn meistroli sgiliau penodol fel datrys problemau mewn mathemateg, strategaethau darllen a meddwl yn feirniadol mewn gwyddoniaeth; sgiliau sy’n bwysig y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae enghreifftiau o gwestiynau prawf PISA i’w gweld yma.
Hefyd, gofynnir i ddisgyblion lenwi holiadur ar-lein amdanyn nhw eu hunain, eu hagweddau at ddysgu a’u defnydd o TGCh. Dylai’r holiadur gymryd rhyw 30-40 munud.
Mae yna Holiadur ysgol hefyd y gofynnwn i’r Pennaeth (neu aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth) ei lenwi ar-lein. Dylai hwn gael ei lenwi cyn dyddiad yr asesiad a dim hwyrach na diwrnod yr asesiad ei hun.
Oes angen i ddisgyblion ddod ag unrhyw beth neu baratoi?
Nid oes angen i’r disgyblion wneud unrhyw waith na pharatoi o flaen llaw i gwblhau’r asesiad.
Dylai’r disgyblion ddod â chyfrifiannell a llyfr i’w ddarllen yn dawel os byddant yn gorffen yr asesiad yn gynnar.
Adroddiadau i ysgolion
Os yw eich ysgol yn cymryd rhan yn y brif astudiaeth, byddwch yn cael adroddiad adborth personol yn cynnwys gwybodaeth am safbwyntiau eich disgyblion mewn amrywiaeth o feysydd e.e. agweddau at fathemateg, ymdeimlad o berthyn a llesiant (ar yr amod bod nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan yn eich ysgol yn ddigon uchel i ddiogelu cyfrinachedd disgyblion). Mae’r adroddiad personol hwn yn cynnig cyfle i chi ddeall a mesur llesiant eich disgyblion yn well ac i ddysgu o’u profiadau nhw wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Gallwch edrych ar sampl o’r adroddiad hwn yma.
Ble alla’ i gael cymorth/mwy o wybodaeth?
Rydym wedi llunio cyfres o Gwestiynau Cyffredin ar gyfer yr ysgolion sy’n cymryd rhan.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae pob croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.
Hoffem ddiolch i bob un o’r ysgolion a’u disgyblion sy’n cymryd rhan yn PISA. Mae eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac yn cyfrannu at wella polisïau ac arferion addysgol ledled y byd.